512 Cofio ’rwyf yr awr ryfeddol
John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor) 1800-1881
Cofio ’rwyf yr awr ryfeddol,
awr wirfoddol oedd i fod,
awr a nodwyd cyn bod Eden,
awr a'i diben wedi dod,
awr ẃynebu ar un aberth,
awr fy Nuw i wirio’i nerth,
hen awr annwyl prynu’r enaid,
awr y gwaed, pwy ẃyr ei gwerth?